Am

Mae Rhwydwaith Gwefrydd y Ddraig yn rhwydwaith gwefrio EV sy’n darparu mynediad hawdd, dibynadwy a chyflym i wefru trydan dros Gymru. Mae’r gwasanaeth ar gael trwy gyfrwng y Saesneg, ar ein safle Saesneg ​www.dragoncharging.co.uk  

Mae gan y rhwydwaith, wefryddion sy’n berchen i awdudodau lleol,  grwpiau cymunedol a sefydliadau masnachol ac ar gael i unrhyw berson sydd a gwefrydd cydnaws ac sydd eisiau cynnig ei gwefrydd i’r cyhoedd.

Gall cwsmeriaid “Geniepoint” ddefnyddio eu cyfrif presennol i gael mynediad i bob gwefrydd  Rhwydwaith Gwefrydd y Ddraig.

Bydd angen i gwsmeriaid newydd greu cyfrif “Dragon Charging” newydd (cliciwch ar “start charging” ar y fwydlen uchod) a chofrestru cerdyn credyd/debyd.  Bydd £10 yn cael ei ddebydu o’ch cerdyn i’ch cyfrif “Dragon Charging”. Wedyn, dych chi’n gallu dechrau gwefru eich cerbyd (naill ai gyda ap y we neu gyda cherdyn RFID wedi ei chofrestru i’ch cyfrif).

Unwaith byddwch chi wedi cofrestru eich cerdyn RFID gyda‘ch cyfrif, fe allwch  ddechrau gwefru’n fwy cyflym ac hawdd wrth gyffwrdd eich cerdyn ar y gwefrydd ar ol plygio eich car i mewn.

Mae’r tâl am wefru yn cael ei arddangos yn glir ar bob gwefrydd ac ar-lein I bawb sy’n defnyddio’r ap. Mae’n bosibl y bydd angen i ddefnyddwyr dalu am barcio hefyd. Gwiriwch yr arwyddion  arddangosir ar y bae parcio.